Habitasse © Curabitur felis erat. Mauris di Serif. Vestibulum | Sed vulputate

Croeso

.....  Croeso i Ŵyl Git�r Acwstic Llŷn yma yn Llanbedrog.




Safonol!Y bwriad yw cynnig hyffroddiant o’r radd flaenaf i gitarwyr, beth bynnag eu safon. Os ydych yn dewis am y penwythnos ar ei hyd, neu’n mynychu'r cyngherddau'n unig. Mi fydd croeso i chi.


Ysbrydoliaeth!


I'r gitarydd sy'n bwriadu mynychu'r penwythnos lawn, mae yna gyfle perffaith i ymweld ag un o ardaloedd hardda'r wlad a derbyn hyfforddiant gan y goreuon.

Cyfyngir ar y niferoedd er mwyn sicrhau fod pob disgybl yn cael digon o sylw gan yr athrawon. Bydd cyfle i addasu’r gwersi yn �l  anghenion y disgyblion. Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu'r penwythnos lawn, cysylltwch gyda ni er mwyn trafod eich anghenion yn bellach .



Dewch a'r Teulu!Mae Llanbedrog a'r ardal yn llawn atyniadau. Gydag Abersoch, Porthmadog, Pwllheli a Cricieth yn denu twristiaid yn eu miloedd pob blwyddyn, byddwch yn sicr o amser difyr a phenwythnos i’w chofio.

Y Lleoliad

Acoustic Guitar festival | Plas Glyn y Weddw Llŷn PeninsulaPlas Glyn-Y-Weddw


Mae'r adeilad hardd yma yn edrych draw ar fynyddoedd Eryri a Bae Ceredigion gyda thraeth Llanbedrog a'i gytiau traeth lliwgar gerllaw. Heibio Eglwys Sant Pedrog mae tafarn Glyn-y-Weddw - dau leoliad arall ar gyfer y penwythnos.

Mae'n anodd dychmygu gwell ardal am yr Ŵyl .